Get help now Make a donation

Yr argyfwng costau byw yn amharu ar iechyd meddwl dros hanner y bobl yng Nghymru

Monday, 15 May 2023 Mind
  • Roedd yr arolwg yn dangos bod sefyllfa ariannol yr argyfwng costau byw yn amharu ar iechyd meddwl dros hanner (53%) y bobl yng Nghymru [Gweler nodyn 1]

  • O’r sylwadau hyn, dywedodd bron i dri o bob pump y bobl (58%) fod yr argyfwng costau byw wedi eu gwneud yn fwy pryderus

  • Er hyn, nid yw 73% o’r rheini dan sylw wedi gallu cael gafael ar gymorth drwy elusen leol ar gyfer iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

  • Mae Mind Cymru yn annog y rheini sy’n ei chael yn anodd ymdopi i chwilio am gymorth ac i siarad â Mind

Mae’r argyfwng costau byw wedi amharu ar iechyd meddwl dros hanner y bobl (53%) yng Nghymru. Dyma ddywed ymchwil newydd a gafodd ei ryddhau heddiw gan Mind Cymru, sef yr elusen iechyd meddwl.

Mae dros hanner y bobl (58%) sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl yn dweud bod yr argyfwng costau byw wedi eu gwneud yn fwy pryderus. Mae bron i dri o bob pump y bobl (59%) yn teimlo dan straen cynyddol, mae bron i hanner y bobl (48%) yn teimlo’n fwy isel, ac mae traean y bobl (35%) yn teimlo’n unig. [Gweler nodyn 2] 

Yr hyn sy’n peri’r pryder mwyaf yw bod cynifer o bobl wedi methu â chael gafael ar y cymorth angenrheidiol. Er enghraifft, nid yw dros hanner y bobl (53%) wedi gallu cael gafael ar gymorth gan feddyg teulu, nid yw dwy ran o dair y bobl (64%) wedi gallu cael gafael ar adnoddau ar-lein i gael gwybodaeth am iechyd meddwl, ac nid yw’r rhan fwyaf y bobl (73%) wedi cael gafael ar gymorth drwy elusen leol ar gyfer iechyd meddwl. [Gweler nodyn 3] Dyna pam mae Mind Cymru - yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni - yn annog pobl i gael gafael ar gymorth os ydyn nhw’n cael trafferth ymdopi.

Mae gan David, o Sir Ddinbych, orbryder difrifol ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD), yn ogystal â diagnosis o awtistiaeth. Mae ei broblemau iechyd meddwl wedi golygu nad yw’n gallu gweithio, ac roedd yr argyfwng costau byw wedi peri pryder mawr iddo ynghylch ei sefyllfa ariannol. Roedd cymorth gan ei elusen Mind lleol yn caniatáu iddo fynd i’r afael â’r broblem hon. Dywedodd:

“Roedd fy ngorbryder difrifol a’m diagnosis o PTSD yn golygu nad oeddwn i’n gallu gweithio. Roedd hyn yn fy rhoi dan bwysau oherwydd teimlais ar y pryd y buaswn i’n gorfod cael sgwrs â’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch y cymorth rwyf yn ei gael. Fe wnaeth Janet, fy ngweithiwr cyswllt, yr ymdrech i ddod i’m cartref, ac fe roddodd hi ei hamser am bedair awr i’m helpu ar ôl i mi ddweud wrth y nyrs ar y ffôn faint yn union oedd fy iechyd meddwl yn effeithio ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Roedd hyn yn frwydr go iawn – roeddwn i’n crïo ac yn cael pyliau o banig hyd yn oed – ond roedd Janet yno i mi. Dywedodd Janet wrtha i, “Dyweda’r gwir Dave, sut wyt ti’n teimlo?”.

“Rhai misoedd yn ddiweddarach, cefais gadarnhad y byddwn i’n parhau i gael cymorth tan 2025 – roedd y nyrs yr oeddwn wedi siarad â hi wedi gwneud yn siŵr o hynny.

“Dechreuais deimlo’n dawelach. Roedd hyn wir yn newid byd i mi - roeddwn i’n gallu ymlacio ynghylch fy sefyllfa ariannol am y tro cyntaf yn fy mywyd. Er fy mod i’n parhau i gael problemau gyda fy iechyd meddwl, roedd hyn yn bwysau oddi ar fy ysgwyddau; roedd pryderon ariannol wedi gwaethygu fy iechyd meddwl fwy nag erioed.

“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heblaw am Janet yn eistedd wrth fy ochr ac yn annog i’r Dave go iawn siarad drosto’i hun. Rhoddodd hi lais i mi.”

Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

"Mae’r ansicrwydd o orfod gweld costau’n cynyddu yn gallu bod yn anodd, ac mae cael cymaint o bethau i orfod delio â nhw’n gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl. Er hyn, gofalu am ein llesiant meddyliol sydd olaf ar ein rhestr gan amlaf. Mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cael y cymorth sydd arnom ei angen – mae’r sefyllfa ariannol hon yn argyfwng iechyd meddwl, a bydd angen help ar bawb i ddelio â’r argyfwng hwn.

"Rydyn ni’n gwybod na allwn ni ddatrys yr argyfwng costau byw. Fodd bynnag, mae cymorth ar gael ar gyfer eich iechyd meddwl ac rydyn ni yma i chi. Mae hyn yn cynnwys cymorth drwy Linell Wybodaeth Mind, y gymuned ar-lein, Side by Side a’r wybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael ar ein gwefan."  

Mae gan Mind Cymru gyngor ar reoli arian os ydych chi’n dioddef o iechyd meddwl gwael. Er enghraifft, gwneud yn siŵr eich bod chi’n hawlio unrhyw gymorth neu arian ychwanegol y mae gennych hawl iddo, yn ogystal â dod i adnabod eich patrymau o ran hwyliau ac arian. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl - gan gynnwys cyngor ynghylch arian ac iechyd meddwl - ewch i wefan Mind.

Gwybodaeth am y bleidlais:

 Cynhaliwyd arolwg gan Censuswide ar ran Mind Cymru gyda sampl o 1,000 o bobl yng Nghymru rhwng 24.03.2023 a 12.04.2023. Mae Censuswide yn cadw at egwyddorion ESOMAR, ac mae’n cyflogi aelodau o’r Gymdeithas Ymchwil Marchnad, sy’n seiliedig ar yr egwyddorion hynny. Mae Censuswide hefyd yn rhan o Gyngor Arolygon Barn Prydain.

Troednodiadau

1. Mae’r ffigyrau’n cyfuno “Mae fy iechyd meddwl wedi dirywio’n sylweddol”, “Mae fy iechyd meddwl wedi dirywio rywfaint” ac “Mae effaith yr argyfwng costau byw ar fy sefyllfa ariannol wedi amharu ar fy iechyd meddwl, ond yn gyffredinol mae’n debyg/yr un fath â’r llynedd”

2. Roedd yr holl ffigyrau’n seiliedig ar y 533/3015 o ymatebwyr a oedd yn gymwys i roi ymateb.

3. Mae’r ffigyrau’n cyfuno “Wedi ystyried cael gafael ar gymorth” neu “Heb gael gafael ar gymorth, nac wedi ystyried cael gafael ar gymorth” ac “Nid wyf ar unrhyw restr aros, nac wedi defnyddio nac ystyried cael gafael ar unrhyw gymorth neu adnoddau ffurfiol ar gyfer fy iechyd meddwl er mwyn mynd i’r afael â hyn” ar gyfer “Eich meddyg teulu”, “Adnoddau ar-lein ar gyfer gwybodaeth am iechyd meddwl” a “Cymorth drwy elusen leol ar gyfer iechyd meddwl” yn y drefn honno. Roedd y ddau ffigwr yn seiliedig ar y 1000/3015 o ymatebwyr a oedd yn gymwys i roi ymateb.

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top