Get help now Make a donation

Ymateb Mind Cymru i’r adroddiad ‘Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch’ gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Friday, 31 March 2023 Mind

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchu Mind Cymru: “Rydyn ni’n falch o weld adroddiad y Pwyllgor heddiw yn mynd i’r afael â’r heriau iechyd meddwl cynyddol y mae myfyrwyr prifysgol yn eu hwynebu. 

“Er bod mynd i’r brifysgol yn sicr yn gyfnod hapus a chyffrous i israddedigion, mae hefyd yn gyfnod o ansicrwydd mawr, a fydd i rai pobl ifanc yn cynnwys symud i ffwrdd o’u cartref am y tro cyntaf a gall fod yn arbennig o anodd i’r rheini sy’n profi problemau iechyd meddwl presennol. 

“Mae pwysau allanol presennol, fel yr argyfwng costau byw a thlodi, hefyd yn cyfrannu at y darlun hwn, a bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cyfrannu’n helaeth at dynnu sylw at yr angen am gymorth gwell i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod allweddol hwn o fywyd. 

“Rydyn ni’n falch iawn bod yr adroddiad hefyd wedi cydnabod ymgyrch ‘Sort the Switch’ Mind Cymru fel rhan o’i ffocws ar yr heriau mae pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu wrth iddynt symud o CAMHS i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Mae’n galonogol iawn gwybod bod ein pryderon ni, a rhai’r ymgyrchwyr ifanc rydyn ni wedi gweithio gyda nhw, wedi cael eu clywed a’u hadlewyrchu.

“Rydyn ni hefyd yn arbennig o falch o weld pwyslais cryf ar grwpiau penodol a chymorth wedi’i deilwra, er enghraifft, sut gallwn ni gefnogi myfyrwyr rhyngwladol a allai ei chael hi’n anoddach ymdopi ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn well, ac mae’r argymhelliad i ddarparu lefel o hyfforddiant iechyd meddwl i bob myfyriwr yn amhrisiadwy – oherwydd bydd hyn yn helpu i leihau stigma, codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i chwilio am gymorth.

“Ar y cyfan, rydyn ni’n falch bod llawer o’r argymhellion yn cyd-fynd â’r dystiolaeth a ddarparwyd gennym i’r Pwyllgor. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus ac yn ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion a wnaed.”

I weld awgrymiadau gorau Mind i fyfyrwyr, ewch

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top