Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD)

Mae’r dudalen hon yn esbonio anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw stigma a chamsyniadau?

Efallai y byddwch chi'n profi gwahanol fathau o stigma neu gamsyniadau ynghylch OCD.

Barn neu gred negyddol am nodwedd neu brofiad arbennig yw stigma. Gall hyn gynnwys stigma ynghylch cael problem iechyd meddwl.

Credoau neu syniadau anghywir yw camsyniadau. Maent yn aml yn seiliedig ar wybodaeth anghywir, camarweiniol neu sydd wedi’i chamddeall.

Gall profi'r rhain fod yn rhwystredig ac yn ofidus. Yn enwedig os ydynt yn dod oddi wrth ffrind, cydweithiwr, aelod o'r teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n bosibl y bydd gennym hefyd farn negyddol am ein hiechyd meddwl ein hunain. Weithiau gelwir hyn yn hunan-stigma.

Stereoteipiau am OCD

Mae yna lawer o stereoteipiau a chamsyniadau di-fudd am OCD. Er enghraifft, mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn golygu eich bod chi'n golchi'ch dwylo'n aml neu'ch bod chi'n hoffi i bethau fod yn daclus.

Pan fo cymaint o stereoteipiau anghywir am OCD, gall fod yn anoddach i'r rhai ohonom sydd ag OCD adnabod y symptomau yn ein hunain. Ac efallai y bydd yn ei gwneud hi'n anoddach esbonio ein profiadau i eraill.

Gall gwybodaeth anghywir am OCD atal dioddefwyr go iawn rhag sylweddoli bod ganddyn nhw OCD. Roeddwn i’n byw gydag OCD am ugain neu dri deg mlynedd cyn sylweddoli, ac nid yw honno’n stori anarferol.

Bychanu OCD

Mae OCD yn aml yn cael ei fychanu. Efallai y bydd rhai pobl yn gwneud jôcs amdano neu'n disgrifio eu hunain fel ‘bach yn OCD’. Neu gallai cwmnïau ddefnyddio stigma OCD yn eu hysbysebion. Er enghraifft, defnyddio ymadroddion fel 'Anhwylder Nadolig Obsesiynol' i werthu nwyddau Nadolig.

Mae’r jôcs a sylwadau bob dydd – yn eich swyddfa, ystafell ddosbarth, eich cartref, ac ar y cyfryngau cymdeithasol – yn creu argraff gyffredinol bod OCD yn rhywbeth eithaf dibwys, neu ddigrif, ac nid yn salwch difrifol.

Syniadau ffug am ystyried OCD yn ddefnyddiol

Mae gan rai pobl gamsyniadau bod OCD yn ddefnyddiol neu'n golygu eich bod chi'n drefnus iawn. Efallai y byddwch yn eu clywed yn dweud eu bod yn dymuno cael OCD neu eich bod yn ffodus i'w gael.

Dwi wedi gwneud taenlen - 'dwi mor OCD!'. Mae’r rhain i gyd yn bethau dwi wedi’u clywed mewn sgyrsiau achlysurol a phroffesiynol

Teimlo euogrwydd neu'n gywilyddus am OCD

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n euog am eich meddyliau a'ch teimladau.

Os yw eich meddyliau ymwthiol yn teimlo’n sarhaus neu'n gywilyddus, efallai y byddwch chi'n teimlo na allwch chi eu rhannu ag unrhyw un. Efallai y byddwch chi'n poeni am sut y bydd pobl yn ymateb.

Neu efallai y byddwch chi'n poeni a yw'ch meddyliau'n wir neu beth maen nhw'n ei olygu. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n euog am bethau rydych chi wedi'u gwneud neu wedi'u dweud pan fyddwch chi'n sâl.

Gall cael y mathau hyn o deimladau am eich OCD arwain at hunan-stigma. Gallai hefyd ei gwneud yn anoddach ceisio cymorth.

Mae nifer o bobl sydd ag OCD yn cuddio eu symptomau oherwydd natur eu meddyliau. Nid oes angen i chi ddioddef yn dawel.

Ymdopi â stigma

Gall stigma am OCD ei gwneud hi'n anodd siarad amdano. Ond mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi eich hun, a phobl a all helpu. Mae yna hefyd ffyrdd o helpu newid dealltwriaeth pobl eraill.

Dyma rai syniadau y gallech roi cynnig arnynt:

  • Dangoswch y wybodaeth hon i bobl i'w helpu i ddeall mwy am OCD.
  • Cymerwch fwy o ran yn eich triniaeth. Mae ein tudalennau ar geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl yn rhoi arweiniad ar leisio eich barn am eich triniaeth. Maent hefyd yn trafod sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a'r camau y gallwch eu cymryd os nad ydych yn hapus â'ch gofal.
  • Gwybod eich hawliau. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar hawliau cyfreithiol.
  • Gweithredwch gyda Mind. Gweler ein tudalen ymgyrchu am fanylion y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan i'n helpu i herio stigma.
  • Rhannwch eich stori. Gall rhannu eich profiadau ag eraill fod yn ffordd bwerus o godi ymwybyddiaeth. Gallech wneud hyn drwy grwpiau cymorth cymheiriaid neu gallech rannu eich profiadau ar-lein.
  • Byddwch yn garedig â'ch hun os ydych chi'n teimlo'n hunan-stigma neu'n teimlo'n euog am feddyliau ymwthiol. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen hunanofal ar gyfer OCD.

Mae ein tudalen ar stigma a chamsyniadau ynghylch iechyd meddwl yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddelio â stigma

Un o’r pethau anoddaf am OCD yw sut mae pobl yn ei ystyried. Mae meddyliau ymwthiol a gorfodaeth yn niweidiol iawn, ac eto nid yw’n ymddangos bod pobl yn deall hynny.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig