Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD)

Mae’r dudalen hon yn esbonio anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ar y dudalen hon: 

Beth yw OCD? 

Mae anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD) yn broblem iechyd meddwl. Mae ganddo ddwy brif ran sy'n gysylltiedig, obsesiynau a gorfodaeth.

Obsesiynau yw meddyliau, teimladau, delweddau, ysfaoedd, pryderon neu amheuon digroeso sy'n cadw dod i'ch meddwl. Efallai y byddan nhw'n teimlo'n sownd yn eich meddwl, beth bynnag fyddwch chi'n ei wneud. Efallai y byddwch chi'n poeni beth maen nhw'n ei olygu neu pam na fyddan nhw'n mynd i ffwrdd, ac yn teimlo'n ofidus iawn amdanynt. Darllenwch ragor am obsesiynau.

Gorfodaeth yw pethau ailadroddus yr ydych yn eu gwneud i leihau'r gofid neu'r ansicrwydd a achosir gan obsesiynau. Gall gorfodaeth fod yn bethau rydych chi'n eu gwneud yn gorfforol, fel gwirio dro ar ôl tro bod drws wedi'i gloi. Neu gallant fod yn bethau rydych chi'n eu gwneud yn eich pen, fel ailadrodd gair penodol i chi'ch hun. Neu gallant gynnwys pobl eraill, megis gofyn i bobl am sicrwydd. Darllenwch ragor am orfodaeth.

Gall pawb brofi meddyliau obsesiynol neu ymddygiadau gorfodol ar adegau. Ond os oes gennych chi OCD, gall eich amheuon a'ch ofnau am eich meddyliau, a'r pethau rydych chi'n eu gwneud i deimlo'n well, eich gwneud chi'n ofidus iawn. A gallant gael effaith fawr ar eich bywyd.

Nid yw'n ymwneud â bod yn daclus, mae'n ymwneud â diffyg rheolaeth dros eich meddyliau negyddol. Mae'n ymwneud â bod yn ofnus y bydd peidio â gwneud pethau mewn ffordd arbennig yn achosi niwed.

Y gylchred OCD

Gallai gorfodaeth wneud i chi deimlo'n well i ddechrau. Ond efallai y gwelwch chi po fwyaf y gwnewch orfodaeth, y cryfaf yw'r awydd i'w wneud eto. Gall hyn arwain at gylch annefnyddiol o feddyliau, teimladau ac ymddygiadau.

Mae’r diagram isod yn dangos sut gall cylchred OCD deimlo. Mae profiad pawb o OCD yn wahanol, felly efallai na fydd hyn yn teimlo'n berthnasol i chi. Neu efallai y bydd rhannau sy'n ddefnyddiol i chi a rhai nad ydynt yn ddefnyddiol i chi.

Gall obsesiynau ddechrau gyda meddwl neu deimlad anodd neu ddigroeso. Gelwir hyn weithiau yn feddwl ymwthiol. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol. Ac os ydyn ni'n eu derbyn ac yn gadael llonydd iddyn nhw, maen nhw fel arfer yn mynd i ffwrdd.

Ond i'r rhai ohonom sydd ag OCD, efallai y byddwn yn dechrau cwestiynu'r meddyliau hyn neu'n poeni am yr hyn y maent yn ei olygu. Mae hyn yn golygu ein bod yn treulio mwy o amser yn rhoi sylw iddynt. A pho fwyaf o amser rydyn ni'n ei dreulio'n meddwl amdanynt, y mwyaf y gall deimlo eu bod yn golygu rhywbeth. Gall hyn wneud i ni deimlo'n ofidus, yn bryderus neu'n ansicr.

Gall gorfodaeth ddechrau pan fyddwn yn teimlo na allwn ymdopi â'n gofid neu amheuaeth. Efallai bod gennym ni awydd cryf i gael gwared ar y meddyliau neu wneud i’n hunain deimlo'n well neu'n fwy sicr am rywbeth. Efallai y byddwn wedyn yn gwneud, yn dweud neu'n meddwl rhywbeth i geisio teimlo'n well.

Ac efallai y bydd hyn yn gweithio ar y dechrau. Efallai y byddwn yn teimlo rhyddhad neu gysur gan yr hyn a wnaethom. Ac efallai y bydd hyn yn gwneud i ni deimlo bod y peth a wnaethom yn ddefnyddiol.

Ond nid yw'r rhyddhad yn para. Mae'r meddwl neu'r teimlad yn dod yn ôl i'n meddwl eto. Ac rydyn ni'n teimlo'n ofidus eto. Efallai y byddwn yn teimlo hyd yn oed yn waeth oherwydd nid ydym yn deall pam bod y meddwl wedi dod yn ôl. Felly rydyn ni'n gwneud y peth a wnaethom y tro diwethaf i deimlo'n well. Ac mae'n gweithio eto. Ond yna daw'r meddwl yn ôl, efallai hyd yn oed yn gynt y tro hwn.

Wrth i amser fynd yn ei flaen, gallwn dreulio mwy a mwy o amser yn poeni am ein hobsesiynau ac yn gwneud ein gorfodaeth. A gallwn deimlo'n gaeth yn y gylchred hon.

Mae gan ein tudalen hunanofal ragor o awgrymiadau ar reoli OCD.

Does dim ots faint o weithiau y byddaf yn gwneud rhywbeth, ni fyddaf byth yn teimlo ei fod wedi'i wneud a'i orffen. Ni fydd fy ymennydd yn gadael i mi wneud hynny.

Pa broblemau iechyd meddwl sy'n debyg i OCD?

Mae rhai problemau iechyd meddwl eraill sy'n debyg i OCD oherwydd eu bod yn cynnwys meddyliau, ymddygiadau neu ysfaoedd ailadroddus.

  • OCD amenedigol yw pan fyddwch chi'n profi OCD yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl genedigaeth. Gweler ein tudalennau ar OCD amenedigol.
  • Anhwylder dysmorffig y corff (BDD) yw pan fyddwch yn poeni'n obsesiynol am un neu fwy o ddiffygion yn eich barn chi yn eich ymddangosiad corfforol. Ac yn datblygu arferion gorfodol i ddelio â phryderon am y ffordd rydych chi'n edrych. Gweler ein tudalennau ar BDD.
  • Pigo’r croen yn orfodol (CSP) yw pigo eich croen yn ailadroddus i leddfu pryder neu ysfa. Gellir ei brofi fel rhan o anhwylder dysmorffig y corff (BDD). Gallwch ddarllen rhagor am CSP ar wefan OCD Action.
  • Trichotillomania yw’r ysfa orfodol i dynnu'ch gwallt allan. Gallwch ddarllen rhagor am trichotillomania ar wefan OCD Action.
  • Celcio yw pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd cael gwared ar bethau, i'r pwynt lle mae'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Gweler ein tudalennau ar gelcio.
  • Mae anhwylder personoliaeth gorfodaeth obsesiynol (OCPD) yn fath o anhwylder personoliaeth. Mae ganddo rai nodweddion cysylltiedig ag OCD, ond mae'n gyflwr gwahanol ac ar wahân. Mae ein tudalennau ar anhwylderau personoliaeth yn cynnwys gwybodaeth am OCPD.
  • Problem bwyta yw unrhyw berthynas â bwyd sy'n anodd i chi. Weithiau caiff y rhain eu diagnosio fel anhwylderau bwyta. Os oes gennych chi broblem bwyta, efallai y byddwch chi'n cael trafferth gyda meddyliau ymwthiol. Neu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd ymdopi ag ansicrwydd. Gall problemau bwyta hefyd gynnwys ymddygiad gorfodol. Gweler ein tudalennau ar broblemau bwyta.

Os oes gennych OCD, mae'n gyffredin cael problemau iechyd meddwl eraill hefyd, fel gorbryder neu iselder. Gall hyn weithiau wneud OCD yn anodd ei ddiagnosio neu ei drin.

Sut brofiad yw byd gydag OCD?

I'r rhai ohonom sydd ag OCD, gall ein hobsesiynau a'n gorfodaeth gael effaith fawr ar ein bywydau. Mae rhai pethau y gallech eu profi yn cynnwys: 

Amhariad ar eich bywyd o ddydd i ddydd

Gall ymddygiad gorfodol gymryd llawer o amser. Ac efallai y byddwch chi'n osgoi rhai sefyllfaoedd sy'n sbarduno'ch OCD. Gall hyn olygu nad ydych chi'n gallu mynd i'r gwaith, gweld teulu a ffrindiau, bwyta allan neu fynd allan. Gall meddyliau obsesiynol ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio a'ch gwneud yn flinedig iawn.

Effaith ar eich perthnasoedd

Efallai y byddwch chi'n teimlo bod yn rhaid i chi guddio'ch OCD rhag y bobl sy'n agos atoch chi. Neu efallai y bydd eich amheuon a'ch pryderon am berthynas yn ei gwneud hi'n rhy anodd parhau. Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd ymdopi ag unrhyw broblemau o fewn eich perthnasoedd. Neu efallai y byddwch yn cael trafferth symud ymlaen o ddadleuon neu broblemau.

Teimlo cywilydd neu unigrwydd

Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd am eich meddyliau obsesiynol neu'n poeni eu bod yn golygu eich bod yn berson gwael. Efallai yr hoffech chi guddio'r rhan hon ohonoch rhag pobl eraill a'ch bod yn ei chael hi'n anodd bod o gwmpas pobl neu fynd allan. Gall hyn wneud i chi deimlo'n ynysig ac yn unig. Mae ein tudalennau ar unigrwydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth a chyngor.

Effaith ar hunan-barch

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n euog am eich meddyliau neu'ch teimladau. Efallai y byddwch chi'n gwneud neu'n dweud pethau rydych chi'n difaru pan fyddwch chi'n cael trafferth gyda'ch OCD. Neu efallai y bydd OCD yn eich atal rhag cyflawni pethau rydych chi eisiau eu gwneud. Gall hyn i gyd effeithio ar sut rydych chi'n teimlo amdanoch chi'ch hun. Gweler rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau hunan-barch.

Teimlo'n bryderus

Efallai y gwelwch fod eich obsesiynau a'ch gorfodaeth yn gwneud i chi deimlo'n bryderus ac o dan straen. Er enghraifft, mae rhai pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt gyflawni eu gorfodaeth mor aml fel nad oes ganddynt lawer o reolaeth drostynt. Gallwch ddarllen rhagor ar ein tudalennau am orbryder.

Roeddwn yn gwybod ei fod yn afresymol...ond byddai tapio gwrthrychau penodol yn lleddfu effaith y meddyliau ymwthiol ofnadwy. Byddai’n cymryd llawer o amser ond o leiaf roeddwn i’n gallu teimlo nad oeddwn yn berson gwael.

Girl smiling wearing a fluffy white hat

Fy stori OCD

Doeddwn i ddim yn ymwybodol bod gen i feddyliau obsesiynol

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig