Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Yr ysgol a fy heriau iechyd meddwl

Dydd Gwener, 19 Ebrill 2024 Chloe

Wrth i Lywodraeth Cymru ofyn am adborth ar ei strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer iechyd meddwl, mae Chloe yn sôn am bwysigrwydd cefnogaeth i bobl ifanc.

Rhybudd cynnwys: Mae'r blog yma'n sôn am ymosodiad rhywiol.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rydyn ni’n aml yn clywed bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, ac rwy’n teimlo’n gryf y dylai cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol ddechrau’n gynnar ym mywyd unigolyn.

Cefais amser caled yn yr ysgol, ac rwy’n teimlo, pe bawn i wedi cael lefel well o gymorth cynnar, y gallwn fod wedi gallu gweithredu’n well a rheoli fy mhroblemau emosiynol yn fwy effeithiol o bosibl.

Yn ystod fy amser yn yr ysgol, fe wnes i ddioddef bwlio, ymosodiad rhywiol a thrais uniongyrchol. Roedd y bwlio ar ei waethaf pan oeddwn i’n gwneud fy arholiadau TGAU, sef blwyddyn 10 ac 11, ac fe wnaeth fy mhresenoldeb yn yr ysgol ddirywio’n sylweddol oherwydd hynny.

Pan oeddwn i ar fy ngwaethaf, dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos oeddwn i’n mynd i’r ysgol, a chafodd hyn effaith enfawr ar fy hyder a fy mherfformiad.

Yn anffodus, gan nad oeddwn i’n teimlo fy mod yn cael digon o gefnogaeth, datblygais feddylfryd o beidio ag ymddiried neu ddibynnu ar unrhyw un i fy nghefnogi. Dechreuais deimlo mai’r peth gorau y gallwn ei wneud oedd cadw’n dawel a pheidio â dweud wrth neb am y profiadau trawmatig eraill a gefais, gan gynnwys y trais a’r ymosodiad uniongyrchol.

Hefyd, roeddwn i’n ofalwr ifanc ar y pryd – oherwydd y cyflwr gwanychol roedd fy mam yn dioddef ohono. Yn ei dro, fe wnaeth hyn achosi i mi roi fy mhrofiadau o’r neilltu.

Cefais chwe wythnos o gwnsela, ond ddaru hyn ddim mynd i’r afael â’r bwlio. Yn hytrach, roedd y sesiynau yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem o ran diffyg presenoldeb, a oedd yn symptom o broblemau llawer dyfnach.

Dim ond ar ôl i mi adael yr ysgol wnaeth pethau wella, ac rwy’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran nifer o bobl wrth ddweud hynny. Oherwydd yr aros cyson am gefnogaeth, cyrhaeddais ben fy nhennyn pan oeddwn i’n 19 oed, a hynny ar ôl i mi fod mewn damwain car gyda fy mhartner. Fe achosodd hyn i mi ddirywio’n sydyn, gan fod yr holl deimladau roeddwn i wedi’u teimlo pan oeddwn i’n ifanc wedi dod yn ôl i’r wyneb – gan nad oeddwn i wedi delio â nhw’n llwyr yn y gorffennol.

Ar ôl cyrraedd pen fy nhennyn ddwy flynedd yn ôl, dyna pryd y cefais ddiagnosis o orbryder ac anhwylder straen wedi trawma. Rydw i wedi gallu deall fy nheimladau yn well o ganlyniad i hynny, a sut galla i gefnogi fy hun yn well yn y dyfodol.

Yn ogystal â defnyddio meddyginiaeth, sydd wedi helpu i reoli fy ngorbryder a phyliau o banig, rwy’n llawer iawn gwell am ymarfer hunanofal. Mae hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol o fy emosiynau, gwybod fy ffiniau, a gwybod pryd i ddweud digon yw digon i amddiffyn fy hun a fy ngofod.

Mae hefyd wedi bod mor bwysig cydnabod fy nheimladau a chaniatáu i mi fy hun eu teimlo nhw go iawn, gan roi clod i mi fy hun am ddelio â’r holl heriau rydw i wedi’u hwynebu. Rydw i hefyd yn meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn garedig â chi eich hun, yn union fel y byddech chi’n ei wneud ar gyfer rhywun rydych chi’n ei garu.

Yn ogystal â gofyn am gymorth gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo, ystyriwch ymgorffori arferion ymwybyddiaeth ofalgar yn eich trefn arferol, fel anadlu’n ddwfn neu fyfyrio, i reoli straen. Myfyriwch ar eich nodau a blaenoriaethwch eich tasgau er mwyn osgoi’r teimlad eich bod yn cael eich llethu. 

Gall adeiladu rhwydwaith gymorth gyda ffrindiau sy’n deall eich trafferthion hefyd roi ymdeimlad o gysylltiad ac anogaeth i chi.

Mae wedi cymryd peth amser, ond rydw i bellach yn deall pa mor bwysig yw gofyn am help a chymryd seibiant pan fo angen. Rwy’n fyfyriwr yn y brifysgol erbyn hyn, ac rwy’n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda iawn gyda fy iechyd meddwl. Rydw i wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd, ond mae wedi bod yn rhywbeth y mae'r brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn yn ei gylch, ac mae hynny mor braf o ystyried fy mhrofiadau yn y gorffennol.

Mae’n siŵr nad yw’n syndod fy mod yn teimlo’n angerddol iawn am gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig mewn ysgolion. Rwy’n teimlo’n gryf y dylai materion negyddol ymysg phobl ifanc gael eu hatal cyn iddynt godi ac y gellid gwneud hynny, fel nad yw cynifer o oedolion ifanc yn chwythu plwc pan fyddant yn gorfod dechrau wynebu pwysau bywyd fel oedolion.

Rwy’n gobeithio y gallaf ddefnyddio fy llais a fy stori i annog person ifanc arall i ddweud ei ddweud os yw’n cael trafferth. Byddwn yn ei annog i siarad ag oedolyn dibynadwy, a defnyddio adnoddau sydd ar gael iddo i reoli ei iechyd meddwl yn effeithiol.

Pe bai addysgwyr yn cael eu cefnogi’n effeithiol a’u hyfforddi’n briodol i adnabod heriau iechyd meddwl, gallent wneud addasiadau bach a rhoi ymyriadau ar waith i helpu person ifanc yn fawr. Ni ddylai neb deimlo ei fod yn cael ei gamddeall a’i fod ar ei ben ei hun; dim ond un eiriolwr dibynadwy sydd ei angen i wneud gwahaniaeth enfawr i daith person ifanc.

 

Related Topics

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig