Grwpiau Mind lleol yng Nghymru
Mae pob un o'r 16 Mind lleol yng Nghymru yn wahanol, gan eu bod i gyd yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra i anghenion eu cymuned leol ac yn ymateb iddynt.
Ble mae fy Mind lleol, sut y gallant fy nghefnogi a sut y gallaf i eu cefnogi nhw?
Mae eich Mind lleol yno i chi ac i unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl
Mae pob Mind lleol yn wahanol. Gan eu bod yn lleol, mae gwasanaethau'n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar gymunedau.
Golygir hyn y gall beth sydd ar gael amrywio o un Mind lleol i’r llall.
Mae nifer o grwpiau Mind lleol yn darparu therapi a gwasanaethau cwnsela, tra bod rhai yn darparu cymorth brys pan fydd rhywun yn cyrraedd argyfwng gyda'u hiechyd meddwl.
Mewn rhai, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau, tai a hawliau cyfreithiol.
Sut gallwch chi gefnogi eich Mind lleol?
Elusennau annibynnol yw gwasanaethau Mind lleol, sy'n codi eu harian eu hunain, ac sydd â byrddau eu hunain sy'n gyfrifol am y ffordd y cânt eu rhedeg.
Gallwch helpu eich Mind lleol i wneud mwy drwy godi arian. Mae rhoi yn lleol yn golygu y bydd eich rhodd yn cefnogi eich cymuned.
Gall gwirfoddoli yn eich Mind lleol helpu i gefnogi mwy o bobl yn eich ardal.
Gall sefydliadau hefyd ymuno â'r frwydr dros iechyd meddwl.
Beth yw Ffederasiwn Mind?
Rydym yn rhan o deulu sy’n cynnwys ein siopau elusen a rhwydwaith o dros 100 o elusennau Mind lleol ledled Cymru a Lloegr.
Yn unedig yn ein pwrpas, ni fyddwn yn ildio nes bod pawb sy’n profi problem iechyd meddwl yn cael cefnogaeth a pharch.
Rhyngddynt, mae'r 18 Mind lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau ymhob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ac mae ganddynt bresenoldeb ym mhob un o olion traed y 7 Bwrdd Iechyd Lleol.
Sut mae Mind Cymru a grwpiau Mind lleol yn gweithio gyda'i gilydd?
Drwy weithio gyda grwpiau Mind lleol, gallwn gyrraedd mwy o bobl ac adeiladu Cymru iachach. Rydym yn rhannu gwybodaeth a syniadau. Rydym yn cefnogi ac yn buddsoddi yng ngwaith grwpiau Mind lleol.
Mae ein cynllun strategol tair blynedd, Un Mind yng Nghymru, yn nodi sut y byddwn yn cydweithio fel rhwydwaith i ddod yn fwy cynhwysol ac effeithiol. Gyda’n gilydd gallwn gyrraedd pob cornel o Gymru, gan gynnig gwasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.
I gael gwybod mwy am ffyrdd o gydweithio neu cyllid Cymru gyfan, cysylltwch â'n Pennaeth Rhwydweithiau (Cymru), Simon Stephens.