Get help now Make a donation

Fy Nhaith gydag Anhwylder Deubegynol

Tuesday, 12 September 2017 Gwen

Mae Gwen yn siarad am ei thaith gydag anhwylder deubegynol a'r hyn y mae wedi ei ddarganfod ar hyd y ffordd a sut y mae hi'n helpu i ofalu am ei hiechyd meddwl. Mae hyn wedi at arwain at yrfa ym maes iechyd meddwl.

 

Helo, Gwen ydw i

Rwyf wedi cael problemau iechyd meddwl ers fy mod yn 18 oed. Es i weld y meddyg a chefais ddiagnosis o iselder ond weithiau byddwn yn teimlo yn eithaf 'uchel'. Nid oedd fy ffrindiau na fy nheulu yn deall llawer am iechyd neu salwch meddwl felly pan fyddwn yn mynd yn orfywiog, roeddent yn arfer meddwl

Dyna i chi ymddygiad arferol Gwen.

Yna, pan oeddwn yn 25 cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol. Tua'r un amser, bu farw rhywun agos i mi drwy hunanladdiad ac achosodd hynny hyd yn oed fwy o ofid meddwl i mi. Roedd fy emosiynau'n rasio ac roeddwn yn cael pyliau deubegynol cymysg ac roeddwn yn cymryd llawer o dabledi. Ar yr un pryd, roeddwn hefyd yn hunan-niweidio.

Felly penderfynais - gan fy mod mor sâl ac nid oeddwn wir yn deall - y byddwn yn ymchwilio i iechyd a salwch meddwl fy hun er mwyn ceisio gwneud synnwyr o bopeth.

Drwy ymchwilio, dysgais sut i reoli salwch a fydd gennyf am weddill fy oes. Dysgais mai'r pethau a helpodd oedd bwyta'n iach – does neb eisiau clywed hyn – ond, bwyta'n iach, ymarfer corff, ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio. Gallaf gofio y tro cyntaf i mi glywed hyn, ei fod yn swnio braidd yn 'hippy'

"Ond mae wir yn gweithio ac mae'n helpu os bydd fy meddwl yn rasio neu os byddaf yn teimlo o dan straen yn y gwaith, neu mewn bywyd yn gyffredinol."

Roeddwn yn arfer bod yn athrawes ysgol uwchradd ond, pan oeddwn yn sâl yn 2013, bu'n rhaid i mi roi'r gorau i addysgu. Nid oedd modd parhau fel yr oeddwn i. Ond erbyn hynny, gan fy mod wedi bod yn ymchwilio am 2 flynedd, gwnes i gais am swydd yn gweithio ym maes iechyd meddwl ac erbyn hyn rwy'n hynod o falch fy mod yn gweithio yn y sector iechyd meddwl ac ar ben hynny, mae'n fy helpu gyda fy nghyflwr ar yr un pryd.

Oherwydd...gallaf helpu pobl eraill nawr.

Oherwydd yr ymchwil, gwnes i...

Gan fy mod yn gwybod sut beth yw teimlo'n sâl yn feddyliol a'r teimlad o wybod nad yw pobl yn deall.

Mae'n anrhydedd gallu addysgu a hyfforddi pobl er mwyn iddynt ddeall.

Os ydynt yn dioddef yn bersonol, neu os yw'n rhywun y maent yn ei adnabod, rwy'n gallu eu helpu i'w hysbysu ac i gael gwared ar y stigma sydd yn bodoli o gwmpas problemau iechyd meddwl, ac mae hynny'n bwysig iawn i mi.

Felly dyna fy stori a gobeithio y bydd o help i rywun. Mae'n hynod o bwysig, rwy'n credu, i gael gwared ar y stigma. Mae pawb yn cael y ffliw neu rywbeth tebyg ar ryw adeg yn eu bywydau. Bydd pawb ar ryw adeg yn wynebu rhyw fath o golled neu dristwch.

Mae'n hanfodol bwysig i ni ofalu am ein hiechyd meddwl ac rwy'n ffodus iawn y gallaf helpu eraill ac yn lwcus iawn fod y ddealltwriaeth gennyf.

Felly: ymchwil, bwyta'n iach, ceisio wneud ychydig o ymarfer corff, ac efallai roi cynnig ar Fyfyrio. Ac efallai bydd hynny yn eich helpu chi, hefyd. 

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top