Mind Cymru launches survey of Independent Mental Health Advocacy
Posted Friday 1 March 2013
Scroliwch i lawr am y fersiwn Cymraeg
1 March sees Mind Cymru launch a survey to find out what users of independent mental health advocacy think of the service. Anyone in Wales who is in hospital for a mental health problem can ask for an Independent Mental Health Advocate. It's important that people with mental health problems get advocacy support as it can be difficult for people to make choices and assert their rights.
Mind Cymru wants to hear from anybody who has used, or tried to use independent mental health advocacy in Wales in the last two years. Not only will these views help make a difference, but everyone who completes the survey also has the chance to win a £100 prize.
If you know someone who is currently in hospital because of their mental health problem, tell them about the advocacy scheme and ask hospital staff for information about how to access an advocate. We want as many people as possible to complete the survey so if you know anyone who is eligible please share this news with them.
If you do not have access to a computer, you can request a paper copy of the survey by calling 029 20395123.
To find out more about the support that people can get from an Independent Mental Health Advocate (IMHA) go to the Welsh Government website for information about Delivering the Independent Mental Health Advocacy Service in Wales
Mind Cymru yn lansio arolwg o Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol
1 Mawrth, mae Mind Cymru yn lansio arolwg i weld beth mae defnyddwyr eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol yn ei feddwl o'r gwasanaeth. Gall unrhyw un yng Nghymru sydd yn yr ysbyty ar gyfer problem iechyd meddwl ofyn am Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol. Mae'n bwysig bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael cymorth eiriolaeth achos y gall fod yn anodd i bobl wneud dewisiadau a sicrhau eu hawliau.
Mae Mind Cymru am glywed gan unrhyw un sydd wedi defnyddio, neu sydd wedi ceisio defnyddio eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ogystal â helpu i wneud gwahaniaeth, bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael cyfle i ennill gwobr gwerth £100.
Os ydych yn adnabod rhywun sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd oherwydd problem iechyd meddwl, rhowch wybod iddo/iddi am y cynllun eiriolaeth a gofynnwch i staff yr ysbyty am wybodaeth am sut i gael gafael ar eiriolwr. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gwblhau'r arolwg felly os ydych yn adnabod unrhyw un sy'n gymwys, rhannwch y newyddion.
Mae'r arolwg ar gael ar-lein yn www.surveymonkey.com/s/2F77BP6. Os nad oes gennych fynediad i gyfrifiadur, gallwch ofyn am gael copi papur o'r arolwg drwy ffonio 029 20395123.
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth y gall pobl ei gael gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth am Gyflawni'r Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol yng Nghymru