Get help now Make a donation

Mind Cymru yn helpu mwy o siaradwyr Cymraeg nag erioed o’r blaen

Wednesday, 01 June 2022 Mind

Ar Ddiwrnod Cynnig Cymraeg eleni, mae Mind Cymru yn cefnogi mwy o siaradwyr Cymraeg nag erioed.

Nid yn unig y mae mwy o dudalennau gwybodaeth Cymraeg ar wefan Mind Cymru, ond mae gennym hefyd mwy o weithwyr cyswllt sy’n siarad Cymraeg i helpu pobl i wella eu hiechyd meddwl yn yr iaith o’u dewis mewn gwasanaethau fel y rhaglen hunangymorth dan arweiniad, Monitro Gweithredol.

Dywedodd Julia James, Pennaeth Rhaglenni Mind Cymru: “Mae’n hollbwysig bod pobl yn gallu cael help gyda’u hiechyd meddwl yn yr iaith y maent fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio.

“Dyna pam rydyn ni wedi recriwtio mwy o weithwyr cyswllt sy’n siarad Cymraeg, yn y gogledd a’r de. Rydyn ni’n gwybod y gall pobl ei chael hi’n anodd siarad am eu hiechyd meddwl, ac ni ddylai iaith fod yn rhwystr arall i hynny.”

Mae Monitro Gweithredol eisoes wedi helpu dros 11,500 o bobl yng Nghymru i ddelio â phroblemau gan gynnwys straen, pryder, iselder, a hunan-barch isel. Mae’r gwasanaeth, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn rhad ac am ddim i bawb yng Nghymru. I gofrestru, ewch i www.mind.org.uk/AMCymru  

Mae gan Mind Cymru hefyd fwy o wybodaeth Gymraeg nag erioed ar ei gwefan, fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i Gynnig Cymraeg. Mae’r tudalennau newydd ar gyfer oedolion yn cynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), ac Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae dadansoddiad data yn dangos bod dros 20,000 o bobl wedi defnyddio tudalennau Cymraeg Mind Cymru yn ystod tri mis cyntaf 2022, dros 50% yn uwch na’r un adeg y llynedd.

Ychwanegodd Julia James: “Mae cefnogaeth iaith Gymraeg yn gwbl hanfodol, a dyna pam mae ein holl wybodaeth fwyaf poblogaidd am iechyd meddwl ar gael yn Gymraeg.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg, ac mae’r anghydraddoldeb hwn yn golygu nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael y cymorth maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o bobl i siarad Cymraeg erbyn 2050 yn golygu bod angen gwneud llawer mwy i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o safon i bobl yn yr iaith o’u dewis.”

Ochr yn ochr â’r tudalennau gwybodaeth y mae Mind Cymru yn eu cynnig i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ceir hefyd nifer o flogiau a ysgrifennwyd yn Gymraeg. Profiadau personol yw’r rhain sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i wneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo ar eu pen eu hunain ar ôl cael diagnosis.

Mae’r elusen hefyd yn hyrwyddo ei holl ymgyrchoedd a gwasanaethau cenedlaethol yn ddwyieithog, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo cefnogaeth iaith Gymraeg i bobl ledled Cymru.

 

 

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top