Get help now Make a donation

Ar eich ennill yn y gwaith - sut y gwnes i helpu fy ngweithle i gael y fedal aur gyda llesiant staff

Wednesday, 13 September 2023 Mind

Mae ymrwymiad Helen Cook i iechyd meddwl ei chydweithwyr wedi helpu ei chyflogwr i ennill Gwobr Aur am lesiant yn y gweithle. Yn y blog hwn, mae’n egluro sut mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi cyflawni rhagoriaeth a pham mae llesiant staff a’r Gymraeg mor bwysig iddynt.

Rwyf bob amser wedi bod yn frwd dros lesiant gweithwyr. Mae’n rhywbeth rwy’n canolbwyntio arno bob dydd yn fy rôl fel Pennaeth Pobl. 

Fel elusen gofrestredig, ein pwrpas yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yw gwella bywydau pobl. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cyfleoedd i bobl a chymunedau brofi, mwynhau a chael eu hysbrydoli gyda’i gilydd, gan ddiwylliant. Gan weithio’n bennaf yng nghymoedd de Cymru, rydym yn gweithredu dros 20 o gyfleusterau diwylliannol, gan gynnwys theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, parc gwledig a dau brosiect seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Rydym hefyd yn cynnal rhaglen helaeth o waith allgymorth.

Mae llesiant ein staff yr un mor bwysig i ni. Fel cyflogwr, mae Awen yn weithle cwbl gynhwysol ac rydym yn gwneud llawer o waith i gefnogi iechyd a llesiant cydweithwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl a gwneud yn siŵr bod staff yn deall ei bod yn iawn i beidio â bod yn iawn a bod help ar gael iddyn nhw. Rydyn ni eisiau annog ein cydweithwyr i gydnabod a siarad am eu heriau iechyd meddwl a llesiant mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

I ddangos ein hymrwymiad, rydym wedi rhoi Strategaeth Llesiant a Chynllun Gweithredu ar waith a chanllawiau Gweithio’n Dda yn Awen. Rydym hefyd wedi llofnodi Addewid Menopos, Addewid Amser i Newid a Siarter Afiechyd Terfynol y TUC.

Ar ôl buddsoddi amser ac adnoddau i ddatblygu ein polisïau a’n gweithdrefnau, roeddem am feincnodi ein gwaith gydag arferion gorau a pholisi. A gan mai Mind yw’r brif elusen iechyd meddwl, fe wnaethon ni benderfynu cymryd rhan ym Mynegai Llesiant yn y Gweithle Mind. Roeddem hefyd eisiau deall safbwyntiau ein cydweithwyr er mwyn i ni allu parhau i gysoni ein strategaeth llesiant a’n cynllun gweithredu â’u dymuniadau a’u hanghenion. Mae arolygon dienw’r Mynegai Llesiant yn ein galluogi i wneud hyn.

Mae Gwobrau Llesiant yn y Gweithle Mind yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi ymrwymo i lesiant yn y gweithle ac iechyd meddwl gweithwyr, felly roeddem yn falch iawn o glywed ein bod wedi ennill y Wobr Aur, a oedd yn golygu ein bod wedi cyflawni rhagoriaeth.

Roedd cael cydnabyddiaeth am y gwaith caled a’n hymrwymiad hirdymor i gefnogi llesiant corfforol a meddyliol ein cydweithwyr yn deimlad gwych ac fe wnaethom fwynhau dathlu llwyddiannau pawb yn y seremoni wobrwyo ar-lein.

Roeddwn i hefyd wedi cael syrpreis hyfryd i gael gwybod fy mod i wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Uwch Arweinydd Mind, gan nad oeddwn i’n gwybod bod fy nghydweithwyr wedi fy enwebu i.

Byddwn yn bendant yn argymell cymryd rhan. Mae’r Mynegai Llesiant yn y Gweithle yn agored i sefydliadau o unrhyw faint yng Nghymru a Lloegr. Gallwch gymryd rhan yn Gymraeg hefyd.

Yma yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, rydym yn falch o’n diwylliant a’n treftadaeth Gymreig. Mae ein henw ‘Awen’ yn air Celtaidd am ysbrydoliaeth farddonol yn y traddodiad Cymreig. Rydyn ni’n ceisio cadw’n driw i’n henw ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rydym yn chwarae ein rhan yn y daith hon drwy greu cyfleoedd i ymgysylltu â siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr Cymraeg a’r rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg o gwbl ar hyn o bryd. Credwn y gall cynnig gwasanaethau sy’n parchu dewis iaith unigolyn wneud gwahaniaeth sylweddol i’w profiadau gydag Awen. Mae ein holl ddeunyddiau marchnata a chyfathrebu, gan gynnwys arwyddion, bwydlenni a phamffledi, yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog. 

Ar wahân i gael cydnabyddiaeth, mae cymryd rhan ym Mynegai Llesiant yn y Gweithle hefyd yn ymwneud â rhannu arferion da. Pe bawn i’n cynnig unrhyw gyngor i sefydliadau eraill, byddwn i’n dweud bod llesiant eich gweithiwr ar frig y rhestr. Ewch amdani!

I gael rhagor o wybodaeth am y Mynegai Llesiant yn y Gweithle:

https://www.mind.org.uk/workplace/workplace-wellbeing-index/

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top