Get help now Make a donation

Bod yn feddyg teulu ac ymdopi â fy iechyd meddwl.

Tuesday, 21 August 2018 Dr Simon

Mae’n ddwy flynedd ers i Dr. Simon gyfrannu at ein hymgyrch Ffeindio’r Geiriau. Yn y blog hwn, mae Simon yn dweud wrthym sut mae’n delio â’i iechyd meddwl yn y gwaith ers hynny.

Mae Simon yn feddyg teulu mewn meddygfa brysur yng nghanol dinas.

Rwy’n bartner mewn Meddygfa deulu gydag 8,500 o gleifion yng nghanol dinas, sy’n gwasanaethu cymysgedd eang o bobl o bob cefndir a chenedl, yn enwedig y digartref.

Ym mis Hydref, roedd yn rhaid i fi gael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith o ganlyniad i gyfnod o iselder difrifol, ac o’r herwydd cefais fy nghyfeirio at fy Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol.

"Roeddwn wedi mynd yn sâl yn dilyn cyfnod o straen difrifol. Roeddwn yn cael problemau i gwrdd a gofynion fy mhroses werthuso a oedd wedi rhoi fy ailgymhwysiad fel meddyg mewn perygl, yn ogystal â baich gwaith oedd cynyddu ac yn achosi straen."

O ganlyniad i hyn, gwnes y penderfyniad annoeth i aildrefnu’r system apwyntiadau heb ymgysylltu’n iawn gyda fy nghydweithwyr a’r staff, ac fe waethygodd hyn y gwaith yn hytrach na’i wella.

Ar ôl cael fy nghyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, gwnes i newidiadau mawr i fy ngwaith a fy nghynllun triniaeth iechyd meddwl.

"Roedd fy nghydweithwyr yn gefnogol ac yn deall fy sefyllfa. Er fy mod wedi cymryd cyn lleied o amser i ffwrdd ag y gallwn, roedden nhw’n amyneddgar wrth i mi wella ac wedi rhoi’r amser i mi ddal i fyny â fy amserlen, gan leihau’r nifer o gleifion roeddwn i’n eu gweld."

Yn y diwedd, derbyniwyd fy newidiadau gan y feddygfa ac fe recriwtiwyd parafeddygon i’n helpu i weld cleifion gan ein bod ni bob amser yn brin o staff (gweithred sydd wedi cael ei hefelychu gan feddygfeydd eraill).

Newidiwyd fy meddyginiaeth, ac fe es i o fod yn cymryd un cyffur gwrthiselder i ddefnyddio dau, wedyn ychwanegu buspirone atynt (cyffur i ymladd gorbryder), ac wedyn newid un o fy nghyffuriau i un arall, ac yn y pen draw, mynd yn ôl at ddefnyddio un cyffur yn unig. Y peth mwyaf arwyddocaol i ddod o’r asesiad oedd diagnosis o gyflwr ar y Sbectrwm Awtistig. Cefais asesiad trylwyr gan fy seiciatrydd ac fe gefais fy nghyfeirio at therapydd galwedigaethol seiciatrig a wnaeth ambell i awgrym ymarferol iawn.

Roedd rhain yn bethau fel cael oriawr clyfar (smart watch) sydd wedi fy helpu’n arw gyda fy ngwaith trefnu, a hunan-gyfeirio i Mynediad at Waith, gwasanaeth wedi’i ariannu gan yr Adran Waith a Phensiynau i helpu pobl ag anableddau weithredu’n well yn y gwaith. Cefais fy asesu ganddynt hefyd ac maen nhw wedi argymell meddalwedd arbennig i fy nghynorthwyo a hyfforddiant yn y gweithle i fi ac i fy nghydweithwyr.

Rydw i wedi mynychu grŵp cefnogi gyda mudiad lleol ardderchog Autistic Spectrum Connections Cymru sydd wedi rhoi mewnwelediad arbennig i fy nghyflwr ac wedi fy rhoi mewn cysylltiad â phobl eraill sy’n rhannu fy niagnosis. Rydyn ni’n siarad am waith a bod yn rhieni, a sut mae ein cyflyrau ar y sbectrwm awtistig yn ein heffeithio. Bydd ASCC hefyd yn darparu cefnogaeth i fi yn y gweithle.

"Does neb yn hoffi bod yn sâl, ond weithiau gall salwch meddyliol fod yn drobwynt i ni gael sylweddoli beth sy’n mynd o’i le mewn bywyd."

I mi, mae fy salwch wedi gorfodi fy meddygfa I ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddelio gyda straen di-baid fy ngwaith. Mae hefyd wedi rhoi mewnwelediad i fi i’r gwahaniaethau yn fy ymennydd sy’n gallu bod yn fendith (fel y gallu i sylwi ar fanylion er enghraifft) ac yn her (mwy tebygol o ddioddef o orbryder a chael problemau gyda’r sefydliad lle rwy’n gweithio).

"Efallai y bydd rhai wedi’u synnu fy mod mor ddiffuant ag ydw i am fy mhroblemau iechyd meddwl."

Rwy’n barod wedi siarad yn agored am fy niagnosis gyda fy nheulu, fy ffrindiau, fy nghydweithwyr ac yn y cyfryngau. Rydw i wedi gweld cynnydd yn y nifer o feddygon a gweithwyr iechyd sy’n ymuno â chymunedau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu’r baich o straen a phroblemau iechyd meddwl gyda’i gilydd, cyn i ni gyrraedd pen ein tennyn. Dylai annog pawb i siarad am ein problemau iechyd meddwl.

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardBack to Top